Llyfrau Cantre’r Gwaelod

Cangen o CSP Cymru Cyf., yw Llyfrau Cantre’r Gwaelod a sefydlwyd yn 2016 gyda’r prif nod o ddwyn yn ôl i brint glasuron llenyddol Cymru o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae’r cyfrolau’n ymgorffori argraffiadiau ysgolheigaidd o’r testunau gwreiddiol ynghyd â rhagymadroddion cysylltiedig. Jane Aaron, Athro Emeritws ym Mhrifysgol De Cymru, yw golygydd y gyfres, a Rita Singer, Cymrawd Ymchwil ym Mhrifysgol Bangor, a olygodd ac a gyflwynodd ei ddau gyhoeddiad cyntaf, The Adventures and Vagaries of Twm Shôn Catti (argraffiad 1af, 1828) gan T. J. Llewelyn Prichard, a Rob the Red-hand and other Stories of Welsh Society and Scenery gan Thomas Richards (detholiad o gyhoeddiadau Richards mewn cylchgronau o Brydain a Thasmania o’r 1820au a’r 1830au).

Manylion cyswllt: jane.aaron@southwales.ac.uk