Amdanom ni

Ers ei sefydlu yn 1994, mae CSP-Cymru Cyf. wedi cyhoeddi monograffau ysgolheigaidd, cyfresi o lyfrau, ac wedi golygu casgliadau o draethodau sy’n canolbwyntio’n bennaf ar ieithoedd, gweithiau llenyddol a gwareiddiadau pobloedd Celtaidd cynnar. Ei nod, yn anad dim, yw hybu datblygiad Astudiaethau Celtaidd mewn cyd-destun cyfoes rhyngddisgyblaethol. Mae’r tair cyfrol a gyhoeddwyd hyd yn hyn yn y gyfres Celtic Studies from the West, er enghraifft, yn archwilio’r syniad arloesol mai yn y Parth Iwerydd y cychwynnodd yr ieithoedd Celtaidd yn ystod yr Oes Efydd. Mae ei benodau’n dadlau dros ac yn erbyn y syfliad paradeim hwn, gan ymdrin â’r pwnc o wahanol bersbectifau – archeolegol, ieithegol a genetig. Mae Tartessian, cyfres gysylltiedig, yn cyflwyno’r ddadl y gellid darllen rhai o’r cofnodion ysgrifenedig cyntaf o Ewrop, o’r Oes Haearn Gynnar ym Mhenrhyn Iberaidd y de-orllewin, fel rhai a arysgrifwyd mewn iaith Indo Ewropeaidd a phenodol Geltaidd. Mae cyhoeddiadau eraill a gyhoeddwyd gan y Wasg yn cynnwys. er enghraifft, argraffiad newydd o Archæologia Britannica, Edward Llwyd, sy’n dathlu 300fed penblwydd y gyfrol, a The Celtic Heroic Age: Literary Sources for Ancient Celtic Europe & Early Ireland & Wales, yn awr yn ei bedwerydd argraffiad ac yn cynnwys cyfoeth o ffynonellau Groegaidd a Rhufeinig, Gwyddelig cynnar, Lladin-Gwyddelig a Brythoneg mewn cyfieithiad.

Mae John Koch, Cyfarwyddwr y Wasg, a raddiodd o Brifysgol Havard, wedi dal cadair bersonol yng Nghanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Cymru, yn Aberystwyth ers 2007. Mae’n awdur cyfrolau sydd wedi torri tir newydd, megis The Gododdin of Aneirin a Celtic Culture: A Historical Encyclopedia, cyhoeddiad pum-cyfrol hynod nodedig ac An Atlas for Celtic Studies, ill dau nid yn unig wedi eu golygu a’u cyd-ysgrifennu, ond hefyd wedi eu cyd-dylunio ganddo.

Yn gynnar yn y 2000au, ail-enwid ‘Celtic Studies Publications’ yn CSP Cymru Cyf. Cangen o CSP Cymru Cyf. yw’r gyfres Llyfrau Cantre’r Gwaelod, a sefydlwyd yn 2016 gyda’r prif nod o ddwyn yn ôl i brint glasuron llenyddol Cymru o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae’r cyfrolau’n ymgorffori argraffiadiau ysgolheigaidd o’r testunau gwreiddiol ynghyd â rhagymadroddion cysylltiedig. Gellir cysylltu â Jane Aaron, golygydd y gyfres, Athro Emeritws ym Mhrifysgol De Cymru, ar jane.aaron@southwales.ac.uk